
Nick Wood
Cyfarwyddwr Gweithredol o Ofal Sylfaenol, Gofal yn y Gymuned ac Iechyd Meddwl
Ymunodd Nick â’r GIG yn 2010 drwy’r rhaglen Porth i Arweinyddiaeth, sy’n dod â uwch reolwyr profiadol o’r sector preifat i fewn i’r GIG. Cychwynodd ei yrfa gyda’r GIG yn Cernyw fel Rheolwr Cyffredinol gwasanaethau gweithredol, gan gynnwys iechyd menywod a phlant, ystadau a cyfleusterau. Cyn dod i Gymru, mi wariodd e 3 blwyddyn yn Ymddiriedolaeth Iechyd Ardal Weston fel CEO a COO.
Ymunodd Nick â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Prif Swyddog Gweithredu yn 2015, ac ar ôl 3 blwyddyn, mi symudodd i’w rôl bresennol o fewn yr adran Gweithredol o’r Bwrdd Iechyd, a’n arwain ar Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau yn y Gymuned a tîmau Iechyd Meddwl.
Mae e’n cyfarwyddwr arweiniol dros y ffrwd gwaith 24/7 o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol ers 2018, sydd wedi cefnogi gwaith llwybr Gofal Sylfaenol Frys a’r rhyngwyneb gyda’r rhaglen cenedlaethol Gofal Brys ac Argyfwng.
Cyn iddo gychwyn ei yrfa gyda’r GIG, gwariodd Nick 20 mlynedd fel uwch rheolwr a perchennog busnes yn y sector adwerthu.

Judith Paget
Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru
Penodwyd Judith i rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o fewn strwythurau'r Gwasanaeth Sifil, ac arweinyddiaeth a goruchwyliaeth GIG Cymru.
Swydd flaenorol Judith oedd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ymunodd Judith â'r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau ar 1 Hydref 2009 ac wedi hynny daeth yn Brif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyn iddi gael ei phenodi'n Brif Weithredwr ym mis Hydref 2014.
Mae Judith wedi gweithio yn y GIG ers 1980 ac mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gweithredol, cynllunio a chomisiynu mewn nifer o sefydliadau'r GIG ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru. Penodwyd Judith i'w rôl gyntaf fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ebrill 2003. Mae gan Judith ddiddordeb brwd mewn gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus; gofal sylfaenol a datblygu cymunedol; gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth a datblygu ac ymgysylltu â staff.
Dyfarnwyd Cwmnïaeth y Sefydliad Rheolwyr Gwasanaethau Iechyd i Judith yn 2012 ac ym mis Mehefin 2014 enillodd Wobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr – Cyfarwyddwr Mewn Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru. Ym mis Mehefin 2019 dyfarnwyd CBE i Judith yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i gyflawni a rheoli yn GIG Cymru.

Eluned Morgan
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cafodd Eluned Morgan ei geni ym 1967 yn Nhrelái, Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iwerydd a gradd mewn Astudiaethau Ewropeaidd o Brifysgol Hull. Bu'n gweithio fel ymchwilydd i S4C, Agenda a'r BBC.
Dechreuodd gyrfa wleidyddol Eluned yn 27 oed pan gafodd ei hethol fel aelod ieuengaf Senedd Ewrop ym 1994. Hi oedd y bumed merch yng Nghymru i gael ei hethol i rôl wleidyddol lawnamser, a'r gwleidydd llawnamser cyntaf yng Nghymru i gael babi tra oedd hi yn ei swydd. Cynrychiolodd Gymru ar ran y Blaid Lafur o 1994 i 2009. Yn y rôl hon, bu'n llefarydd Llafur ar ddiwydiant, gwyddoniaeth ac ynni, ac yn llefarydd ar ran y Grŵp Sosialaidd o 200 o bobl ar faterion yn ymwneud â Rheoli'r Gyllideb. Ysgrifennodd y Papur Gwyrdd ar ynni ar ran Senedd Ewrop ac arweiniodd drafodaethau'r Senedd ar y Gyfarwyddeb Drydan lle sicrhaodd hawliau newydd ar gyfer cwsmeriaid a mynnu bod Aelod-wladwriaethau'r UE yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd.
O ddiwedd 2009 tan fis Gorffennaf 2013, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cenedlaethol Cymru SSE (SWALEC), un o gwmnïau ynni mwyaf y DU. Yn ystod 2013-2016, gwasanaethodd Eluned Morgan fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac o 2014-2016 gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Tramor. Cafodd ei gwneud yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011, a'i henw ffurfiol yw'r Farwnes Morgan o Drelái.
Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd Eluned ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Penodwyd Eluned yn Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.

Albert Heaney CBE
Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
Albert Heaney CBE, yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Llywodraeth Cymru. Mae Albert yn gweithio mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ers y 1980au. Cymhwysodd fel gweithiwr cymdeithasol ym 1988 a bu’n gweithio’n ymarferol i ddechrau cyn symud i rolau rheoli. Mae wedi arwain cyfarwyddiaeth bolisi brysur y llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth a pholisi gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Mae Albert yn aelod o'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ac yn Gadeirydd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol Cymru.
Cyn ei swydd bresennol, roedd Albert yn cyflenwi fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y pandemig. Mae'n gyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol sy'n arwain ar Wasanaethau Plant ac Oedolion ac yn gyn-Lywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru). Mae Albert wedi cynrychioli ADSS Cymru mewn nifer o rolau gan gynnwys Cyfarwyddwr Arweiniol Plant a Chyfarwyddwr Arweiniol Diogelu ac Atal. Mae Albert yn gyn-Gadeirydd y Bwrdd Diogelu Plant a'r Pwyllgor Ardal Amddiffyn Oedolion. Mae Albert wedi ymrwymo i hyrwyddo a sicrhau hawliau dinasyddion ac arfer cynhwysol, sy'n dod ag ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth. Mae hefyd wedi cymryd rhan weithredol mewn amrywiaeth o fentrau cydweithredu ac integreiddio.
Mae Albert yn dysgu Cymraeg ac mae'n gyd-gadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Alex Slade
Cyfarwyddwr Dros Dro Gofal Sylfaenol
Ymunodd Alex â Llywodraeth Cymru yn 2013 drwy Raglen Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil, gan ddechrau yn adran y Trysorlys fel yr Arweinydd Arloesedd ac ers hynny mae wedi ymgymryd â nifer o rolau o fewn Llywodraeth Cymru.
Daeth Alex yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ym mis Mawrth 2019. Ac arweiniodd yn llwyddiannus at ddatblygu a gweithredu polisïau mewn perthynas â Gofal Sylfaenol, gan gynnwys diwygio cytundebol a newid deddfwriaethol, gyda goruchwyliaeth o £1.4bn bob blwyddyn.
Arweiniodd ymateb gweithredol Covid-19 Gofal Sylfaenol, gan gynnwys newidiadau cytundebol a chyfreithiol mawr a goruchwylio cyfnodau adfer.
Roedd yn gyfrifol am gyflawniad yn erbyn y ddau gam gweithredu ynglŷn â Gofal Sylfaenol yng Nghymru Iachach (datblygu gwaith clwstwr a diwygio'r contractau), ynghyd â chefnogi newid ar draws nifer o gamau gweithredu eraill.
Roedd yn rheoli cyllidebau refeniw dirprwyedig (tua £5m) yn ogystal â dyrannu buddsoddiad sylweddol yn y sector iechyd i gyflawni blaenoriaethau'r Gweinidogion. Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys ehangu rhaglenni arweinyddiaeth rheolwyr hyfforddiant fferylliaeth a rheolwyr practisau.
Uwch Berchennog Cyfrifol am y prosiect E-gyfeirio Deintyddol a weithredwyd yn llwyddiannus.
Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i greu newid diwylliannol yn yr Is-adran ac arwain ymgysylltu i fod yn berchen ar y Cynllun Gweithredu FED a'i gyflawni.
Aelod o'r Bwrdd Polisi Cymunedol; sicrhau cysondeb â gwasanaethau iechyd lleol a blaenoriaethau eraill y Llywodraeth.
Gweithredu fel noddwr SCS y Llwybr Carlam ar gyfer LlC, yn ogystal â mentora cydweithwyr ar draws y sefydliad.
Meithrin capasiti a gallu yn ogystal ag ehangu setiau sgiliau, gan gynnwys hyfforddiant achos busnes a hyfforddiant cyd-drafod ffurfiol ar gyfer Llywodraeth Cymru a swyddogion y GIG.
Ers hynny, mae Alex wedi camu i mewn fel Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Dros Dro sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol yn ogystal â'r rhai a nodir uchod.
Arweinydd gweithredol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol ac aelod o'r Tîm Cyfarwyddwr Gweithredol (TCG) i lywio a galluogi pynciau trawsbynciol ar lefel Grŵp.
Atebolrwydd am gyflawni tri ymrwymiad sylweddol gan y Rhaglen Lywodraethu – gyda chynlluniau eisoes wedi'u cytuno â’r Gweinidogion.
Uwch Berchennog Cyfrifol am y prosiect 'Cyngor ac Arweiniad' i integreiddio gwasanaethau – a enillodd Wobr 'Arloesi ar Raddfa' yn ddiweddar am osgoi derbyniadau i'r ysbyty gan ddefnyddio Cyswllt Meddygon Ymgynghorol.
Uwch Berchennog Cyfrifol am y Cynllun Atebolrwydd Presennol ar gyfer Indemniad Meddygon Teulu – i oruchwylio a chwblhau bargeinion masnachol sy'n cynnwys asedau gwerth uchel a throsglwyddiadau atebolrwydd.
Cadeirydd Dros Dro y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol – gan ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd i sicrhau aliniad

Alan Lawrie
Ymgynghorydd Rhaglenni Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol
Mae Alan Lawrie yn Ymgynghorydd Rhaglenni Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol sy'n gweithio gyda'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol. Cyn hynny, roedd Alan yn Brif Swyddog Gweithredol yn Cwm Taf Morgannwg ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr Gweithredol yn y GIG ledled y Deyrnas Gyfunol. Mae’r agenda gofal sylfaenol a chymunedol yn agos at galon Alan ac mae datblygu clystyrau yn rhan allweddol o hyn wrth symud ymlaen yng Nghymru.

Dr Karen Gully
Cynghorydd Proffesiynol Cenedlaethol, Rhaglen Adfer ar ôl COVID
Cymhwysodd Karen o Brifysgol Bryste ac roedd yn bartner meddyg teulu mewn practis yn Henffordd. Daeth yn aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd cyn ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Caerffili fel y Cyfarwyddwr Meddygol. Yn 2008 ymunodd Karen â Llywodraeth Cymru yn Uwch Swyddog Meddygol gan roi cyngor proffesiynol ar Ymarfer Cyffredinol a Gofal Sylfaenol. Roedd hyn yn cynnwys datblygu'r polisi i sefydlu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol cydweithredol drwy rwydweithiau Clwstwr. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn ymuno â BIPAB i arwain y gwaith o ddatblygu ymhellach Rwydweithiau Gofal Cymdogaeth ac wedyn i gydlynu'r ymateb gofal sylfaenol a chymunedol i Bandemig COVID 19. Mae Karen wedi ymuno â'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn Ymgynghorydd Proffesiynol Cenedlaethol ac mae'n parhau i roi cyngor proffesiynol i'r Rhaglen Adfer ôl-COVID yn BIPAB.
