
Estyn yn Fyw: Sut gall ein Hadroddiad Blynyddol helpu i wella ysgolion uwchradd
Ymunwch â ni’n fyw am 6pm ar 27 Chwefror 2023. Bydd Catherine Evans (Cyfarwyddwr Cynorthwyol) a Lowri Jones (AEF) yn rhannu canfyddiadau ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer ysgolion uwchradd. Os ydych yn gweithio mewn ysgol uwchradd, ymunwch â ni i glywed am:
-
y prif themâu a ddaeth i’r amlwg yn y sector yn ystod y flwyddyn
-
enghreifftiau o arfer effeithiol gan ysgolion ledled Cymru
-
sut i ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer athrawon a dysgwyr
Byddwn hefyd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein canfyddiadau ynglŷn â’r sector uwchradd.
Caiff y digwyddiad a'r wefan hon eu dylunio a'u rheoli gan Production 78 ar Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Hawlfraint 2021 Production 78 Ltd. Nid yw Production 78 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol