
Estyn yn Fyw:
Datblygu Medrau Darllen
Ym mis Mai, cyhoeddom adroddiad thematig a amlygodd argymhellion allweddol ar gyfer gwella medrau darllen Saesneg disgyblion 10-14 oed.
Ymunwch â’n digwyddiad Estyn yn Fyw am 4pm ddydd Llun 11 Medi i glywed mwy am sut mae ysgolion yn datblygu medrau darllen.
Bydd AEF Heledd Thomas yn ymuno ag awdur yr adroddiad, sef AEF Alan Toothill, i drafod:
-
Uchafbwyntiau ac argymhellion allweddol o’r adroddiad
-
Gwelliannau ym medrau darllen disgyblion ers ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb
-
Sut yr eir i’r afael â diffygion penodol
Bydd penaethiaid yn ymuno â ni hefyd i glywed eu meddyliau, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau am yr adroddiad thematig.
Byddwn yn fyw am 30 munud, ond os na allwch chi ymuno â ni‘n fyw, gallwch wylio’r ffrwd yn ôl ar ôl 21 Medi ar ein sianel YouTube.
Caiff y digwyddiad a'r wefan hon eu dylunio a'u rheoli gan Production 78 ar Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.
Hawlfraint 2021 Production 78 Ltd. Nid yw Production 78 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol