top of page

Cymraeg
Cymraeg
English
Seminar adroddiadau Rhwydwaith Tystiolaeth Gydweithredol (CEN)
Collaborative Evidence Network (CEN) reports seminars
O fis Ionawr 2023, byddwn yn cynnal cyfres o seminarau ar-lein i arddangos a lledaenu prif ganfyddiadau adroddiadau'r Rhwydwaith Tystiolaeth Gydweithredol (CEN). Bu'r deunaw prosiect ymchwil cydweithredol, sy'n cynnwys Sefydliadau Addysg Uwch a sefydliadau eraill, yn edrych ar effeithiau pandemig COVID-19 ar wahanol agweddau ar y system addysg ac ar grwpiau penodol o ddysgwyr. Roedden nhw hefyd yn edrych ar ffyrdd o liniaru'r effeithiau hynny, yn ogystal â ffyrdd y gall ymarferwyr a dysgwyr gael eu cefnogi'n well wrth symud ymlaen.
Rydym isod yn rhestru'r agenda ar gyfer y seminar cyntaf a'r amserlen arfaethedig ar gyfer gweddill y gyfres seminar. Mae union ddyddiadau seminarau yn y dyfodol yn amodol ar bryd mae modd cyhoeddi adroddiadau.
Dydd Iau 19 Ionawr 2023
16:00 - 18:00
Seminar 1 - Dysgwyr agored i niwed a lles
4pm – Cyflwyniad gan y adeirydd - Dr Carmel Conn, Prifysgol De Cymru
4.05-4.25pm – Cyflwyniad gan ymchwilwyr
-
Cefnogi plant ifanc distaw, swil a phryderus yn yr ysgol - dan arweiniad Dr Sue Davis a Dr Rhiannon Packer (Met Caerdydd)
4.25-4.35pm – C&A
4.35-4.55pm – Cyflwyniad gan ymchwilwyr
-
COVID–19, Addysg a Dysgu: Lleisiau Plant Ifanc - dan arweiniad Dr. Jacky Tyrie (Abertawe) a Sarah Chicken (UWE)
4.55-5.05pm – C&A
5.05-5.25pm – Trafodaeth gyffredinol a sylwadau ar y tri adroddiad
5.25pm – Sylwadau i gloi gan y Cadeirydd
Seminarau i'r Dyfodol
Seminar 2 – Dysgwyr bregus a'u teuluoedd
Seminar 3 - Dulliau yn y Dosbarth
Seminar 4 - Iaith, llythrennedd a llenyddiaeth
Seminar 5 - Pontio i ôl-16 a thu hwnt
Seminar 6 – Dysgu ac ymgysylltu ysgolion
Caiff y digwyddiad a'r wefan hon eu dylunio a'u rheoli gan Production 78 ar Llywodraeth Cymru.
Hawlfraint 2022 Production 78 Ltd. Nid yw Production 78 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol
bottom of page