top of page

Telerau ac Amodau 

Perchnogaeth gwefan

Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd berchen ar y wefan hon a chaiff ei chynllunio a'i gweithredu gan Production 78 Limited (Production 78). Mae'r Telerau hyn yn nodi'r telerau ac amodau ar gyfer defnyddio ein gwefan a gwasanaethau fel y cynigir gennym. Mae'r wefan yn cynnig gwybodaeth a mynediad i ymwelwyr i Ddigwyddiad a dolenni i wefannau a gwybodaeth trydydd parti mewn perthynas â'r digwyddiad. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych yn cymeradwyo eich bod wedi darllen a deall y Telerau hyn ac rydych yn cytuno i fod yn rhwymedig iddynt.

​​

Defnydd o'r wefan

Er mwyn defnyddio ein gwefan a/neu gael ein gwasanaethau, rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf, neu'r oedran cyfreithiol llawn oed yn eich awdurdodaeth, a meddu ar yr awdurdod, hawl a rhyddid cyfreithiol i ymrwymo i'r Telerau hyn fel cytundeb rhwymedig. Ni chaniateir i chi ddefnyddio'r wefan hon a/neu gael gwasanaethau os bydd gwneud hynny wedi'i wahardd yn eich gwlad neu o dan unrhyw gyfraith neu reoliad sy'n berthnasol i chi.

​​

Mae'r wefan hon ond yn cynnig gwybodaeth am Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac mewn Argyfwng – Digwyddiad Dysgu 1 a mynediad iddo. Mae'n gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth a llwyfan i gynnal y digwyddiad ac mae'n darparu dolenni i wefannau a gwybodaeth trydydd parti. Ein nod yw cadw'r wefan hon mor gyfredol â phosibl a gofynnwn i chi roi gwybod am unrhyw gamgymeriadau neu ddolenni nad ydynt yn gweithio er mwyn i ni eu cywiro cyn gynted â phosibl. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau na gwybodaeth trydydd parti.

​​

Perchnogaeth eiddo deallusol, hawlfreintiau a logos

Mae'r gwasanaeth a'r holl ddeunyddiau a geir yno neu a drosglwyddir drwy hynny, gan gynnwys, heb gyfyngiad, feddalwedd, delweddau, testun, graffeg, logos, patentau, nodau masnach, marciau gwasanaeth, hawlfreintiau, ffotograffau, sain, fideos, cerddoriaeth a'r holl hawliau eiddo deallusol mewn perthynas â nhw, yn eiddo llwyr i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Heblaw fel y nodir yn benodol yma, ni chaiff dim yn y telerau hyn ei ystyried i greu trwydded mewn neu o dan unrhyw hawliau eiddo deallusol o'r fath, ac rydych yn cytuno i beidio â gwerthu, trwyddedu, rhentu, diwygio, dosbarthu, copïo, ailgynhyrchu, darlledu, arddangos yn gyhoeddus, perfformio yn gyhoeddus, cyhoeddi, addasu, golygu na chreu gwaith deilliadol ohono.

 

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno drwy lanlwytho unrhyw gynnwys (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddyluniau, delweddau, animeiddiadau, fideos, ffeiliau sain, ffontiau, logos, darluniau, cyfansoddiadau, gwaith celf, rhyngwynebau, testun a gwaith llenyddol) drwy unrhyw ddull i'r wefan, eich bod yn cadarnhau mai chi sy'n berchen ar yr holl hawliau perthnasol neu eich bod wedi cael y drwydded briodol i lanlwytho/trosglwyddo/anfon y cynnwys. Rydych yn cytuno ac yn cydsynio y gellir arddangos y cynnwys sydd wedi'i lanlwytho/trosglwyddo yn gyhoeddus ar y wefan.

Hawl i atal neu ganslo cyfrif defnyddiwr

Gallwn derfynu neu atal eich mynediad i'r gwasanaeth yn barhaol neu dros dro heb rybudd nac atebolrwydd am unrhyw reswm, gan gynnwys os byddwn o'r farn eich bod yn torri unrhyw un o ddarpariaethau'r telerau hyn neu unrhyw gyfraith neu reoliadau perthnasol. Gallwch atal ei ddefnyddio a gwneud cais i ganslo eich cyfrif a/neu unrhyw wasanaethau ar unrhyw adeg.

 

Digollediad

Rydych yn cytuno i yswirio a digolledu Production 78 a Phrifysgol Abertawe rhag unrhyw orchmynion, colled, atebolrwydd, hawliadau neu dreuliau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) a wneir hyn eu herbyn gan unrhyw drydydd parti oherwydd, neu'n deillio o'ch defnydd o'r wefan neu unrhyw un o'r gwasanaethau a gynigir ar y wefan, neu mewn cysylltiad â hynny.

Cyfyngiad atebolrwydd

I'r graddau eithaf a ganiateir gan gyfreithiau cymwys, ni fydd Production 78 na Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw iawndal anuniongyrchol, cosbol, damweiniol, arbennig, canlyniadol na chosbedigaethol, gan gynnwys heb gyfyngiad, iawndal am golled elw, ewyllys da, defnydd, data na cholledion anniriaethol eraill, sy'n deillio o ddefnyddio, neu'r anallu i ddefnyddio, y gwasanaeth, neu'n gysylltiedig â hynny.

 

I'r graddau eithaf a ganiateir gan gyfreithiau cymwys, nid yw Production 78 na Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hawlio unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw (i) gamgymeriadau nac anghywirdebau yn y cynnwys;  (ii) anaf personol neu niwed i eiddo, o ba bynnag natur, sy'n deillio o'ch mynediad i'n gwasanaeth neu'ch defnydd ohono; ac (iii) unrhyw fynediad anawdurdodedig i'n gweinyddion diogel neu ddefnydd ohonynt a/neu unrhyw a'r holl wybodaeth bersonol a gaiff ei storio yno.

 

Hawl i newid a diwygio telerau

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau hyn o bryd i'w gilydd yn ôl ein disgresiwn llwyr. Felly, dylech adolygu'r dudalen hon yn achlysurol. Pan fyddwn yn newid y telerau mewn dull materol berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi fod newidiadau materol berthnasol wedi cael eu gwneud i'r telerau. Bydd eich defnydd parhaus o'r wefan neu ein gwasanaeth ar ôl newid o'r fath yn golygu eich bod yn derbyn y telerau newydd. Os na fyddwch yn cytuno ag unrhyw un o'r telerau hyn neu unrhyw fersiwn o'r telerau yn y dyfodol, peidiwch â defnyddio na chael mynediad (na pharhau i gael mynediad) i'r wefan na'r gwasanaeth.

Negeseuon e-bost a chynnwys hyrwyddo

Drwy gofrestru rydych yn cytuno i dderbyn negeseuon a deunyddiau hyrwyddo  gennym drwy e-bost o bryd i'w gilydd.

Caiff eich gwybodaeth ei dal yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018. Caiff unrhyw wybodaeth a gyflwynir ei rheoli gan Iechyd Cyhoeddus Cymru “Y Rheolydd Data”. Bydd Production 78 yn gweithredu ar ei rhan yn ôl y gofyn fel “Y Prosesydd Data”. Mae Production 78 Ltd, wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth. Ein rhif cofrestru yw Z8545846.

Caiff ein gwefan ei chynnal ar lwyfan Wix.com. Mae Wix.com yn rhoi llwyfan ar-lein i ni sy'n ein galluogi i ddarparu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau i chi. Mae'n bosibl y bydd Wix.com, “Y Prosesydd Data”, yn prosesu eich gwybodaeth. Mae'n bosibl y caiff eich gwybodaeth ei storio drwy drefniadau storio data a chronfeydd data Wix.com, a chymwysiadau cyffredinol Wix.com. Maent yn storio eich gwybodaeth ar weinyddion diogel y tu ôl i wal dân. Ceir mwy o wybodaeth ym Mholisi Preifatrwydd Wix ei hun yma https://www.wix.com/about/privacy

 

Byddwch yn cael diweddariadau fel a ganlyn, yn dibynnu ar eich lefel tanysgrifio isod:

 

1.      Cofrestriad Cynrychiolydd Digwyddiad Unigol – Byddwn yn cysylltu â chi gyda diweddariadau am y digwyddiad hwn drwy'r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth gofrestru. Yn dilyn y digwyddiad, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am adborth

 

I newid neu i ddatdanysgrifio i unrhyw danysgrifiadau, anfonwch e-bost i info@247urgentcare.wales unrhyw bryd. Caiff y newidiadau hyn eu gwneud cyn gynted â phosibl. Caniatewch hyd at 48 awr i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith.

Dewis cyfraith a datrys anghydfodau

Caiff y telerau hyn, yr hawliau a'r rhwymedïau a ddarperir drwy hyn, ac unrhyw a'r holl hawliadau ac anghydfodau sy'n ymwneud â hyn a/neu'r gwasanaethau, eu llywodraethu gan, eu dehongli o dan a'u gorfodi ym mhob ffordd yn unol â chyfreithiau sylweddol mewnol Cymru a Lloegr yn unig, heb ystyriaeth o egwyddorion croesgyffyrddiad cyfreithiau. Caiff unrhyw a holl hawliadau ac anghydfodau o'r fath eu cyflwyno, ac rydych yn cydsynio i lys ag awdurdodaeth gymwys wedi'i leoli yng Nghymru a Lloegr benderfynu arnynt yn unig. Mae'r defnydd o Gonfensiwn Contractau ar gyfer Gwerthu Nwyddau yn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig wedi'i eithrio yn benodol.

Manylion am gymorth cwsmeriaid a gwybodaeth gyswllt

Dylid anfon pob ymholiad yn ymwneud â chymorth a chywiriadau neu ymholiadau am gofrestru a diwygiadau drwy e-bost i:

info@247urgentcare.wales

Ein nod yw ymateb i bob e-bost o fewn 48 awr gwaith (oriau swyddfa'r DU).

bottom of page