top of page

Polisi Preifatrwydd 

Gwybodaeth rydym yn ei chasglu

Rydym yn derbyn, yn casglu ac yn storio unrhyw wybodaeth a nodir gennych ar ein gwefan neu a ddarperir gennych mewn unrhyw ffordd arall. Yn ogystal, rydym yn casglu cyfeiriad protocol y rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â'r rhyngrwyd. Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio adnoddau meddalwedd i fesur a chasglu gwybodaeth am sesiynau, gan gynnwys amseroedd ymateb tudalennau, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithiadau â thudalennau a dulliau a ddefnyddir i bori i ffwrdd o'r dudalen. Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy (gan gynnwys enw, e-bost, sylwadau, adborth, adolygiadau o gynhyrchion ac argymhellion).

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Pan fyddwch yn cyflwyno ffurflen ar ein gwefan, fel rhan o'r broses, byddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a nodir gennych megis eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio ar gyfer y rhesymau penodol a nodwyd ar y ffurflen yn unig.

Pam rydym yn casglu eich gwybodaeth

Rydym yn casglu gwybodaeth nad yw'n bersonol a gwybodaeth bersonol o'r fath at y dibenion canlynol:

  • Darparu a gweithredu'r gwasanaethau ar y wefan hon;

  • Darparu cymorth cwsmer a chymorth technegol parhaus i'n defnyddwyr;

  • Gallu cysylltu â'n hymwelwyr a'n defnyddwyr gyda hysbysiadau cyffredinol neu wedi'u personoli yn ymwneud â gwasanaethau a negeseuon hyrwyddo;

  • Creu data ystadegol wedi'u cyfuno a gwybodaeth nad yw'n bersonol arall wedi'i chyfuno a/neu ei chasglu, y gallwn ni neu ein partneriaid busnes eu defnyddio i ddarparu neu wella ein gwasanaethau ein hunain;

  • Cydymffurfio ag unrhyw gyfreithiau a rheoliadau cymwys.

 

Sut rydym yn storio, defnyddio, rhannu a datgelu eich gwybodaeth

Caiff eich gwybodaeth ei dal yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018. Caiff unrhyw wybodaeth a gyflwynir ei rheoli gan Brifysgol Abertawe “Y Rheolydd Data” a'i phrosesu gan Production 78 Ltd “Y Prosesydd Data”. Mae Production 78 wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynwyr Gwybodaeth. Ein rhif cofrestru yw Z8545846. Ceir mwy o wybodaeth ym Mholisi Preifatrwydd Gig Cymru ei hun.

Caiff ein gwefan ei chynnal ar lwyfan Wix.com. Mae Wix.com yn rhoi llwyfan ar-lein i ni sy'n ein galluogi i ddarparu ein cynhyrchion a'n gwasanaethau i chi. Mae'n bosibl y bydd Wix.com, “Y Prosesydd Data”, yn prosesu eich gwybodaeth. Mae'n bosibl y caiff eich gwybodaeth ei storio drwy drefniadau storio data a chronfeydd data Wix.com, a chymwysiadau cyffredinol Wix.com. Maent yn storio eich gwybodaeth ar weinyddion diogel y tu ôl i wal dân. Ceir mwy o wybodaeth ym Mholisi Preifatrwydd Wix ei hun yma https://www.wix.com/about/privacy

Sut y byddwn yn cyfathrebu â chi

Byddwch yn cael diweddariadau fel a ganlyn, yn dibynnu ar eich lefel tanysgrifio isod:

  1. Cofrestriad Cynrychiolydd Digwyddiad Unigol – Byddwn yn cysylltu â chi gyda diweddariadau am y digwyddiad hwn drwy'r cyfeiriad e-bost a roddwyd wrth gofrestru. Yn dilyn y digwyddiad, mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am adborth.

I newid neu i ddatdanysgrifio i unrhyw danysgrifiadau, anfonwch e-bost i info@247urgentcare.wales unrhyw bryd. Caiff y newidiadau hyn eu gwneud cyn gynted â phosibl. Caniatewch hyd at 48 awr i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith.

Sut rydym yn defnyddio Cwcis a gwybodaeth olrhain ar ein gwefan

Rydym yn defnyddio Cwcis i wella profiad defnyddwyr wrth ddefnyddio ein gwefan.

Ceir mwy o wybodaeth am y Cwcis a ddefnyddir gan apiau Wix Market Place sydd ar ein gwefan yn https://support.wix.com/en/article/cookies-and-your-wix-site

 

Sut y gallwch dynnu yn ôl eich cydsyniad i ni ddal eich gwybodaeth

Os nad ydych am i ni brosesu eich gwybodaeth mwyach, cysylltwch â ni yn info@247urgentcare.wales

Diweddariadau i'r polisi preifatrwydd

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg, felly dylech ei adolygu yn aml. Bydd newidiadau ac esboniadau yn weithredol ar unwaith ar ôl eu cyhoeddi ar y wefan. Os byddwn yn gwneud newidiadau materol berthnasol i'r polisi hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi yma ei fod wedi cael ei ddiweddaru, fel eich bod yn gwybod pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, rydym yn ei defnyddio a/neu yn ei datgelu.

Cwestiynau a gwybodaeth gyswllt

Os hoffech: gael gafael ar unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, ei chywiro, ei diwygio neu ei dileu, fe'ch gwahoddir i gysylltu â ni yn info@247urgentcare.wales neu ysgrifennwch at Production 78 Limited, Uned D12-D13 Ystad Fasnachol East Point, Caerdydd, CF3 2GA.

bottom of page